Gwelaf graig a'm deil mewn stormydd

(Y Graig)
Gwelaf graig a'm deil mewn stormydd
  O gawodydd dŵr a thân;
Yn ŵyneb uffern a'i rhythriadau,
  Holl breswylwyr hon a gân:
    Cadarn sylfaen
  A osodwyd gan y Tad.

Beth sy imi mwy a wnelwyf
  Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio'r wyf nad yw eu cwm'ni
  I'w cymharu â'm Iesu mawr;
    O am aros
  Yn ei gariad ddyddiau f'oes.
1: John Hughes 1775-1854
2: Ann Griffiths 1776-1805

Tonau:
Calfari (Samuel Stanley 1767-1822)
Crwys (Huw Warren)
Cwm Rhondda (John Hughes 1873-1932)
Edlingham (E J Hopkins)
Goss (J Goss 1800-80)
Litany (W Newport)
Rousseaus's Dream
Vesper (alaw Rwsiaidd)

gwelir:
  Beth sydd imi mwy a wnelwyf?
  Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd

(The Rock)
I see a rock which keeps me in storms
  Of showers of water and fire;
In the face of hell and its assaults,
  All its residents who sing:
    A strong foundation
  Which was laid by the Father.

What have I more to do
  With the base idols of the earth?
Testifying I am that their company is
  Nothing to compare with my great Jesus:
    O to stay
  In his love all the days of my life.
tr. 2008,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~